Beth yw diben y wefan hon?

Mae'r Gofrestr Tir Ar-lein yn rhoi'r cyfle i bartïon â diddordeb ac, yn benodol, aelodau'r cyhoedd chwilio am y gofrestr teitl, a'r cynllun teitl ar gyfer eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr y gellir ei adnabod trwy gyfeiriad. Os gallwn gysoni'r manylion cyfeiriad rydych yn eu darparu gyda'n cofnodion ac os yw'r eiddo yn gofrestredig, dylech allu llwytho i lawr copïau o'r gofrestr teitl a'r cynllun teitl am ffi.

Os na allwn gysoni'r cyfeiriad â'n cofnodion trwy ddulliau electronig, gallwch lenwi ffurflen, sydd ar gael ar-lein, a'i hanfon atom yn y post. Bydd y ffurflen hon, sef Cais am chwiliad o'r map mynegai, yn rhoi'r cyfle ichi ganfod a yw'r eiddo neu dir yn gofrestredig, neu yn destun cais am gofrestriad cyntaf sy'n aros i'w brosesu.

Os yw'r tir yn gofrestredig gall y cofnod cyfatebol gynnwys cais sy'n aros i'w brosesu i gofrestru trosglwyddiad o ran o deitl cofrestredig neu brydles a roddir o deitl cofrestredig.

Gwelwch y cwestiwn hwn am ragor o fanylion.

Pwy ddylai ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Crëwyd y wefan hon er mwyn i bobl sy'n dymuno chwilio yn achlysurol am wybodaeth cofrestr a chynllun teitl wneud hynny'n ddidrafferth. Fe'i dyluniwyd yn bennaf gydag aelodau'r cyhoedd mewn golwg. Mae gwasanaethau eraill - Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol a'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol - sydd yn fwy addas i'r defnyddiwr proffesiynol fel y rhai sy'n gweithio ym meysydd y gyfraith, cyllid ac eiddo. Mae'n rhaid bod cyfrif credyd gan ddefnyddwyr Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol.

Sut y gallaf gael gwybodaeth o'r Gofrestrfa Tir ar y wefan hon?

Dylech deipio manylion yr eiddo ar y dudalen Ymholiad am eiddo. Os gallwn gysoni hyn â'n cofnodion o gyfeiriadau dylech allu cael copïau o'r gofrestr teitl a'r cynllun teitl am ffi.

Beth fydd ei angen arnaf i wneud ymholiad?

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Adobe Acrobat Reader
  • Cerdyn credyd/debyd dilys
  • Cyfeiriad ebost dilys
  • Argraffydd (yn ddewisol)
  • Dull o gadw ffeiliau os byddwch yn dymuno eu gweld eto (yn ddewisol)

Ydy'r holl dir yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig?

Nac ydy. Amcangyfrifir bod tua 82% o'r holl deitlau posibl i eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu cofrestru. Mae'r canran hwn yn cynyddu yn raddol. Gyda rhai trafodion arbennig fel gwerthiant, mae'n rhaid cyflwyno cais i gofrestru'r eiddo neu, fel arall, ni fydd teitl cyfreithiol llawn gan y perchennog i'r eiddo. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf rydym yn bwriadu cofrestru'r holl eiddo yng Nghymru a Lloegr. Gallwch gael rhagor o fanylion o'n gwefan Strategaeth.

A ddylwn brynu eiddo ar sail canlyniadau Ymholiad am Eiddo?

Dylech bob amser ystyried cael cyngor cyfreithiol proffesiynol cyn ymrwymo i unrhyw drafodion o ran eiddo. Mae'r copïau a ddarperir gan y Gofrestr Tir Ar-lein er gwybodaeth yn unig ac nid 'Copïau Swyddogol' ydynt. Derbynnir copi Swyddogol fel tystiolaeth mewn llys i'r un graddau â'r ddogfen wreiddiol. Mae gan berson hawl i gael indemniad gan y cofrestrydd os yw'n dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad mewn copi Swyddogol. Gallwch ofyn i'r Gofrestrfa Tir anfon Copi swyddogol atoch trwy'r post os ydych yn llwytho i lawr a llenwi Ffurflen OC1 am gofrestr teitl a chynllun teitl a Ffurflen OC2 am ddogfen.

A oes modd i mi ddefnyddio'r copïau rwyf wedi eu hargraffu wrth werthu fy nhŷ?

Nac oes. Bydd angen 'Copïau Swyddogol' gwarantedig ar eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig (os byddwch yn defnyddio un) neu ar gyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig eich prynwr. Gellir cael copi Swyddogol trwy'r post o'r Gofrestrfa Tir, ar ôl llwytho i lawr a llenwi Ffurflen OC1 am gofrestr teitl a chynllun teitl a Ffurflen OC2 am ddogfen.

Sut y gallaf gael gwybodaeth am eiddo yn yr Alban a Gogledd Iwerddon?

Mae gan y gwledydd hyn eu Cofrestrfeydd eu hunain. Bydd y cysylltau canlynol yn mynd â chi i wefannau Cofrestrfeydd yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Oes modd i mi wneud awgrym, cwyn neu sylwadau ynglŷn â'r wefan hon?

Ar bob cyfrif. Mae croeso ichi gysylltu â ni - rydym yn croesawu eich sylwadau.

Pa mor hir y bydd rhaid i mi aros am ymateb i'm hadborth?

Rydym yn ymrwymo i ymateb i'ch adborth o fewn pum niwrnod gwaith. Os byddwn yn methu â gwneud hyn oherwydd amgylchiadau eithriadol byddwn yn anfon ymateb dros dro yn esbonio pam ac yn dweud pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.

Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan