Amdanom ni Dilynwch y cyswllt isod i ymweld â phrif wefan y Gofrestrfa Tir
www.cofrestrfatir.gov.uk

Gwasanaeth ar wahân i ddeiliaid cyfrif busnes yw'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol. Mae'n hwyluso trafodion eiddo trwy ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn electronig. Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth www.landregistrydirect.gov.uk/.

Trosolwg
Adran o'r Llywodraeth yw'r Gofrestrfa Tir ac mae hi wedi cael ei sefydlu fel Asiantaeth Weithredol a Chronfa Fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a'r Arglwydd Ganghellor. Mae'n gyfrifol am gadw a chynnal Cofrestr Tir Cymru a Lloegr. Ar ran y Goron mae'r Gofrestrfa Tir yn gwarantu teitl i ystadau cofrestredig a buddion mewn tir. Cafodd ei sefydlu ym 1862 ac mae'n ofynnol yn ôl statud iddi ariannu ei hunan ac nid yw'n dibynnu ar arian cyhoeddus.

Mae gan y Gofrestrfa Tir 24 o swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau cofrestru tir i wahanol siroedd ac awdurdodau unedol.


Amdanom ni
Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan