Pam na allaf chwilio ar sail enw'r perchennog?

Gallwch ddefnyddio Ffurflen PN1 i gyflwyno cais i chwilio ar sail enw'r perchennog ond bydd rhaid ichi argyhoeddi'r cofrestrydd bod gennych fudd digonol, er enghraifft, fel cynrychiolydd personol neu ymddiriedwr mewn methdaliad.

Dylid anfon y ffurflen wedi ei llenwi â llaw trwy'r post i'r cyfeiriad a argreffir ar ben y ffurflen hon.

Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth arall?

Mae mwy o gyngor ynglŷn â'r Gofrestrfa Tir ar gael ar ein gwefan gorfforaethol neu gallwch gysylltu â ni trwy ebost.

Ble mae eich swyddfeydd?

Mae rhestr lawn o'n swyddfeydd ar gael ar ein prif wefan.

Ydy pob cofrestr teitl a chynllun teitl ar gael o'r wefan hon?

Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar gael. Fel arfer mae'r canran nad ydynt ar gael yn ymwneud â daliadau mawr o dir.

Gwelwch y cwestiwn hwn am ragor o fanylion.

Sut y gallaf gael copïau o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a dogfennau nad ydynt ar gael yn electronig?

Gellir anfon y rhain atoch trwy'r post. Bydd rhaid ichi argraffu a llenwi ffurflen gais (Ffurflen OC1) ar gyfer cofrestr teitl a chynllun teitl. I gael dogfen bydd rhaid ichi argraffu a llenwi ffurflen gais (Ffurflen OC2). Dylech anfon y rhain trwy'r post i swyddfa briodol y Gofrestrfa Tir. Mae rhestr o swyddfeydd ar gael ar ein prif wefan.

Ydy pob cofrestr teitl yn dangos gwerth y tŷ?

Nac ydy. Mae'r pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd mewn gwarediad (e.e. trosglwyddiad) a dderbyniwyd i'w gofrestru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 wedi ei gofnodi ar y gofrestr teitl, pan fo'n ymarferol. Bydd y cofnod yn aros ar y gofrestr teitl nes y bydd newid o ran perchnogaeth a fydd yn peri cofnod newydd. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 7 Cofnodi ar y gofrestr y pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd yn cynnwys mwy o wybodaeth.

Mae gennyf ddiddordeb yn olrhain hanes fy nhŷ. A allwch fy helpu?

Na allwn. Nid ydym yn cadw gwybodaeth ynglŷn â hanes eiddo.

A allwch ddweud wrthyf a oedd un o'm hynafiaid yn arfer bod yn berchen ar eiddo penodol a sut y daeth y berchnogaeth honno i ben?

Nid ydym yn cadw gwybodaeth yn berthnasol i eiddo cyn iddo gael ei gofrestru gyda ni. Ar ôl i eiddo gael ei gofrestru, byddwn yn cadw dogfennau sy'n arwain at newid o ran perchnogaeth. Os oes gennych ymholiad o'r math hwn, byddai'n well pe byddech yn anfon llythyr yn y lle cyntaf. Dylech nodi pa eiddo y mae gennych ddiddordeb ynddo gan ddarparu cymaint o wybodaeth ag y bo modd o ran dyddiadau (neu amcangyfrif) prynu a gwerthu ayb. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu ond dylech gofio ei bod yn bosibl nad yw'r wybodaeth hon gennym. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen gais (ar gael o'n prif wefan) er mwyn gofyn am gopïau o ddogfennau. Codir ffi am unrhyw un o'n cofnodion a ddarparwn mewn ymateb i'ch ymholiad, ond byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn mynd ymhellach. Efallai y bydd y wefan http://www.familyrecords.gov.uk/ yn ffynhonnell cyngor ac adnoddau defnyddiol i haneswyr teulu.

A ydych yn cadw cofnodion hanesyddol o berchnogaeth eiddo?

Gweler y cwestiwn uchod. Gallwn hefyd ddarparu copïau o'n cofnodion perchnogaeth o ran eiddo cofrestredig, lle maent yn ymwneud â'n cofnodion cyfrifiadurol yn unig. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen gais HC1 i ofyn am gopïau o'n cofnodion hanesyddol ar gyfrifiadur. Codir ffi am ddarparu copi o'r cofnodion hyn ond byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn mynd ymhellach. Byddai'n well rhoi eich ymholiad mewn llythyr er mwyn i ni allu archwilio ein cofnodion a phenderfynu pa wybodaeth sydd gennym all fod o gymorth i chi.

Ydy defnydd o'r Gofrestr Tir Ar-lein yn gyfyngedig?

Nid ydym yn cyfyngu ar y nifer o weithiau y gallwch ymweld â'r Gofrestr Tir Ar-lein neu y nifer o weithiau y gallwch lwytho manylion i lawr. Fodd bynnag, gall eich cwmni cerdyn credyd fod wedi cyfyngu ar y nifer o weithiau y gallwch ddefnyddio'ch cerdyn yn yr un lleoliad o fewn amser byr ac mae'n bosibl y gall hyn eich atal rhag defnyddio ein gwefan drosodd a throsodd.

Oes rhaid galluogi cookies i ddefnyddio'r wefan hon?

Oes, mae'n rhaid ichi alluogi cookies i ddefnyddio'r Gofrestr Tir Ar-lein. Gyda'r rhan fwyaf o borwyr, mae'r cookies wedi eu galluogi yn awtomatig. Am wybodaeth am sut i alluogi cookies, gweler y cyfleuster cymorth ar-lein ar gyfer eich porwr gwe neu gallwch gael fersiwn o'r porwr sy'n galluogi cookies.

A oes modd i mi ddefnyddio'r wefan hon ar AppleMac neu drwy ddefnyddio Netscape Navigator?

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â Safon W3C XHTML 1.0 ac felly dylech allu ei gweld gydag unrhyw borwr sy'n cydymffurfio â'r safon hon.

Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan