Rydym yn croesawu cwestiynau a sylwadau am ein gwefan. Mae adborth cwsmeriaid yn ein
helpu i gyflawni ein hymrwymiad i gynnig gwasanaeth sy'n cwrdd â'ch anghenion ac i wella'n
gyson o ran safon ein gwasanaeth a pherfformiad.
Problem llwytho i lawr? Cliciwch yma
a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.
Neu, os oes gennych gwestiwn am ddefnyddio'r Gofrestr Tir Ar-lein neu os yw eich problem
llwytho i lawr yn parhau gallwch anfon e-bost atom. I'n helpu i ddelio â'ch ymholiad,
cliciwch ar y cyswllt priodol isod.
Llwytho dogfennau i lawr neu daliadau
Sylwadau / awgrymiadau am y wefan
Ymholiad cyffredinol
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am gofrestru tir yn hytrach na phroblem gyda’r Gofrestr Tir Ar-lein cliciwch yma
i gael manylion cysylltu.
Os oes gennych broblem gyda'r Gofrestr Tir Ar-lein ffoniwch ni ar 0844 8920456 (byddwch yn talu'r raddfa genedlaethol a
godir gan ddarparwr eich gwasanaeth ffôn).
Caiff galwadau eu recordio - Mae cymorth dros y ffôn ar gael yn ystod yr oriau canlynol:
08.30 - 18.00 dydd Llun i ddydd Gwener
08.30 - 13.00 dydd Sadwrn
Sylwch nad ydym yn gallu ateb cwestiynau ynglŷn â chynnwys eich dogfen PDF neu
ymholiad cyffredinol am gofrestru tir ar y rhif hwn. Gweler Ymholiad Cyffredinol
am wybodaeth bellach.
Er mwyn inni ddelio â'ch galwad mor gyflym â phosibl, gofalwch fod y manylion canlynol
wrth law (os yw'n briodol)
- Manylion cyfeiriad yr eiddo y chwiliwyd amdano neu rif teitl y Gofrestrfa Tir
- Dynodydd Trafodiad WorldPay
- Sut mae'ch cyfrifiadur wedi'i osod: y System Gweithredu, y Fersiwn Adobe Reader, a'r Porwr sydd gennych
Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg, ffoniwch Wasanaethau Ffôn y Gofrestrfa Tir ar
gyfer Cymru ar 0844 8920308. Gwasgwch 1 i gael y gwasanaeth Cymraeg a dywedwch
wrth y cysylltydd fod gennych ymholiad am y Gofrestr Tir Ar-lein.
Problemau deall eich dogfen PDF?
Os oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn eich dogfen PDF dylech gysylltu â swyddfa'r
Gofrestrfa Tir a nodir ar dudalen flaen y ddogfen hon, gan ddyfynnu'r rhif teitl a ddangosir.
|