Ein heiddo deallusol ni yw'r data a'r wybodaeth sydd ar gael ichi ac felly fe'u diogelir gan Hawlfraint y Goron a chyfreithiau deallusol eraill. Mae pob hawl perchnogaeth yn aros gyda ni. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan y Gofrestr Tir Ar-lein yn unol â'r Telerau ac Amodau Mynediad hyn a'r gofynion a amlinellir yn rhannau eraill o'r wefan hon.
Mae'n rhaid ichi beidio â gwneud na cheisio gwneud unrhyw ddileadau, ychwanegiadau at (ac eithrio wrth lenwi ffurflen a ddarparwyd gennym ni) cofnodion o hysbysiadau, addasiadau neu newidiadau i unrhyw ddata neu wybodaeth, y systemau neu'r cronfeydd data. Nid oes hawl gennych gopïo'r wybodaeth, neu ei gwerthu neu ei gwerthu ymlaen i drydydd parti.
Os ydych yn ansicr a yw'r defnydd rydych yn bwriadu ei wneud o'r wybodaeth yn torri'r hawliau eiddo hyn, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad ebost canlynol: copyright@landregistry.gov.uk.
Darperir y wybodaeth "fel ag y mae". Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol ichi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu yn ganlyniadol sy'n digwydd o ganlyniad i (i) unrhyw anghywirdeb neu anghyflawnder o ran y data neu unrhyw wybodaeth arall a ddarperir ichi trwy'r wefan hon neu unrhyw oedi, ymyriadau, camgymeriadau neu ddiffyg o ran eu cyflenwi; (ii) unrhyw benderfyniad neu weithred o'ch eiddo chi neu unrhyw drydydd parti sy'n deillio o ddibynnu ar y data. Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol am golled o ran adnoddau busnes, o ran elw neu am unrhyw iawndal cosbedigol, anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu gyffelyb o gwbl, boed o ran cytundeb, tort neu dan unrhyw amgylchiadau eraill, hyd yn oed os cawn ein hysbysu o'r posibilrwydd eich bod chi neu drydydd parti wedi dioddef colled o'r fath.
Gall ffactorau sy'n amhosibl eu rhagweld ac sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni oedi trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd. Gall hyn ein rhwystro rhag darparu ein gwasanaethau a chyflawni eich archebion. Rydych yn cydnabod na fyddwn ni nac unrhyw ddarparwr gwasanaeth gwybodaeth na thrydydd parti yn atebol ichi neu i unrhyw drydydd parti am unrhyw golledion o ganlyniad i unrhyw oedi o'r fath.
Ni fyddwn ar unrhyw gyfrif yn atebol am unrhyw golled canlyniadol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iawndal arbennig damweiniol, uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n digwydd o ganlyniad i oedi neu golli'r gallu i ddefnyddio ein gwasanaethau rhyngrwyd. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch cyfrifiadur, meddalwedd, modem, ffôn neu eiddo arall sy'n digwydd o ganlyniad i'ch defnydd o'n gwasanaethau.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw un o'r gwefannau sy'n gysylltiedig â'r wefan hon ac nid ydym o angenrheidrwydd yn cymeradwyo'r farn a fynegir ynddynt. Ni allwn warantu y bydd y cysylltau hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym reolaeth a fydd y tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.
|