| Cofrestr teitl |
Mae'r gofrestr teitl yn cynnwys y manylion sy'n berthnasol i'r eiddo. Mae tair rhan i bob cofrestr teitl:
- cofrestr eiddo – disgrifiad o'r eiddo ac unrhyw hawliau a all fod er budd yr eiddo
- cofrestr perchnogaeth - enw perchennog yr eiddo ac unrhyw gyfyngiadau ar eu pŵer i ddelio â'r eiddo
- cofrestr arwystlon – unrhyw wybodaeth arall a all effeithio yn andwyol ar yr eiddo, er enghraifft, morgeisi neu hawliau.
Nid 'copi swyddogol' yw'r copi o'r gofrestr teitl a ddarperir gan y Gofrestr Tir Ar-lein. Derbynnir copi swyddogol o'r gofrestr teitl fel tystiolaeth mewn llys i'r un graddau â'r ddogfen wreiddiol. Mae hawl gan berson gael indemniad gan y cofrestrydd os yw'n dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad mewn copi swyddogol.
|
| Cofrestriad cyntaf |
| Cais i gofrestru tir digofrestredig. |
| Copi swyddogol |
Copi o'r gofrestr teitl, cynllun teitl (sy'n warantedig ar y dyddiad a'r amser sy'n ymddangos arnynt) neu ddogfen sydd hefyd yn warantedig.
Mae copi swyddogol yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn llys i'r un graddau â'r ddogfen wreiddiol. Mae gan berson hawl i gael indemniad gan y cofrestrydd os yw'n dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad mewn copi swyddogol.
Nid copïau swyddogol yw copïau PDF o gynlluniau teitl, cofrestri teitl a dogfennau a brynwyd trwy'r Gofrestr Tir Ar-lein.
|
| Cynllun teitl |
| Mae'r cynllun teitl yn dangos maint cyffredinol yr eiddo a gofrestrwyd o dan y rhif teitl a ddangosir, fel arfer trwy amlinelliad coch. Seilir cynlluniau teitl ar fap yr Arolwg Ordnans diweddaraf sydd ar gael ar adeg y cofrestriad ac nid ydynt yn cael eu diweddaru yn rheolaidd.
Nid yw'r cynllun fel arfer yn dangos pwy sy'n berchen ar nodweddion y terfyn, fel ffensys a gwrychoedd.
Gellir eu diweddaru i ddangos gwybodaeth yr Arolwg Ordnans diweddaraf lle bo tir wedi ei werthu o'r teitl neu os bydd rhaid gwneud hyn wrth gofrestru eiddo arall. O dan yr amgylchiadau hyn byddwn yn hysbysu'r perchennog. I gael copi swyddogol bydd rhaid i chi ddefnyddio Ffurflen OC1.
Mae hi bob amser yn ddoeth archwilio'r cynllun teitl ochr yn ochr â'r wybodaeth o'r gofrestr teitl. Gall cofnodion yn y gofrestr teitl eglurhau maint y teitl (efallai mai'r fflat ar y llawr cyntaf yn unig sy'n cael ei gynnwys) a'r cyfeirnodau lliw a ddangosir. Gall y cynllun teitl gyfeirio hefyd at faterion megis prydlesi cofrestredig neu leoliad hawddfreintiau buddiol neu wrthwynebus (fel hawliau mynediad).
Nid 'copi swyddogol' yw'r copi o'r cynllun teitl a ddarperir gan y Gofrestr Tir Ar-lein. Derbynnir copi swyddogol
o'r cynllun teitl fel tystiolaeth mewn llys i'r un graddau â'r ddogfen wreiddiol. Mae hawl gan berson gael indemniad gan
y cofrestrydd os yw'n dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad mewn copi swyddogol. Gallwch gael copi swyddogol trwy'r post gan
y Gofrestrfa Tir trwy lwytho i lawr a llenwi Ffurflen OC1. |
| Chwiliad o'r map mynegai |
| Cais yw hwn i benderfynu a yw eiddo yn gofrestredig ai peidio ac os felly, beth yw'r rhif(-au) teitl sy'n effeithio arno. Mae'n gyfuniad o chwilio'r gronfa ddata o gyfeiriadau a'r cofnodion graffigol o gofrestriadau ar ein Map Mynegai. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 10 - Chwiliadau swyddogol o'r map mynegai yn cynnwys mwy o fanylion. |
| Dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr |
| Mae'r gair 'dogfen' yn disgrifio nifer o wahanol eitemau sy'n cynnwys trawsgludiad, trosglwyddiad, gweithred, prydles,
morgais ayb. Nid yw pob dogfen y cyfeirir ati yn y gofrestr ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion mae modd gweld pa ddogfennau sydd ar
gael trwy edrych am nodyn yn y gofrestr sy’n dweud 'Copi yn y Dystysgrif' a 'Copi yn y Ffeil'
(enghraifft). Mae copïau o
ddogfennau ar gael o'r gwasanaeth hwn trwy'r post yn unig.
I gael copi trwy'r post:
Y ffïoedd ar gyfer dogfennau yw:
- £20 am bob prydles y cyfeirir ati yn y gofrestr
- £10 am unrhyw un neu bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr.
|
| Detholiad o'r gofrestr teitl |
Crynodeb yw hwn o wybodaeth a geir yn y gofrestr teitl sy'n cael ei llwytho i lawr o'r Gofrestr Tir Ar-lein. Mae'n cynnwys:
- y rhif teitl
- y cyfeiriad
- y pris neu'r gwerth a ddatganwyd (ar gyfer y rhan fwyaf o drafodion a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000)
- y perchennog cofrestredig
- rhoddwr benthyg unrhyw arwystlon cofrestredig (morgeisi).
Darperir copi cyflawn o'r gofrestr teitl gyda'r detholiad a dylech ddarllen hwnnw er mwyn sicrhau bod y crynodeb yn gyflawn. Ni ellir ystyried y detholiad na'r gofrestr teitl chwaith fel 'copi swyddogol'. Derbynnir copi swyddogol o'r gofrestr teitl fel tystiolaeth mewn llys i'r un graddau â'r ddogfen wreiddiol. Mae hawl gan berson gael indemniad gan y cofrestrydd os yw'n dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad mewn copi swyddogol.
Gellir cael copi swyddogol trwy'r post gan y Gofrestrfa Tir trwy lwytho Ffurflen OC1 i lawr a'i llenwi. |
| Ffurflen OC1 |
| Ffurflen gais am gopïau gwarantedig o'r gofrestr a/neu'r cynllun teitl ('copïau swyddogol'). Nid yw gwybodaeth a ddarperir ar ffurf electronig trwy'r Gofrestr Tir Ar-lein yn warantedig. |
| Ffurflen OC2 |
| Ffurflen gais am 'gopïau swyddogol' o ddogefnnau nad oes moedd eu hanfon yn electronig neu lle mae angen copi swyddogol papur. Yn y
rhan fwyaf o achosion cyfeirir at y dogfennau hyn yn y gofrestr teitl. Fodd bynnag, mae dogfennau eraill sy'n
berthnasol i gais ar gael hefyd, ond nid trwy'r Gofrestr Tir Ar-lein. Mae Cyfarwyddyd Cyhoeddus 1 - Cyfarwyddyd i'r
wybodaeth rydym yn ei chadw a sut y gallwch ei chael yn cynnwys mwy o wybodaeth ac mae ar gael ar ein prif wefan
www.cofrestrfatir.gov.uk |
| Ffurflen SIM |
| Ffurflen gais am chwiliad o'r map mynegai. |
| Lesddaliad |
| Perchnogaeth am gyfnod penodedig o flynyddoedd. Gall fod o ganlyniad i roi prydles o rydd-ddaliad neu gellir creu lesddaliad o brydles bresennol am gyfnod byrrach na'r brydles honno. |
| Maenor |
| Oddi ar i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym yn Hydref 2003, nid yw'n bosibl bellach cofrestru arglwyddiaeth maenor. Fodd bynnag gellir archwilio teitlau maenor a gofrestrwyd cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym. |
| Map mynegai |
| Map ar raddfa fawr sy'n dangos a yw tir yng Nghymru a Lloegr wedi ei gofrestru a'r rhif(-au) teitl os felly. Bydd y map mynegai yn datgelu hefyd unrhyw 'rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf' sy'n effeithio ar eiddo digofrestredig. |
| Rhent-dâl |
|
Swm i'w dalu yn flynyddol am dir yw rhent-dâl. Gall fod naill ai yn fythol-barhaus neu am gyfnod o flynyddoedd ac mae'n rhoi hawliau penodol i berchennog y rhent-dâl ('perchennog y rhent') os nad yw'r swm yn cael ei dalu.
Ers 21 Awst 1977 gellir creu rhai rhent-daliadau penodol yn unig. 'Rhent-daliadau ystad' yn bennaf yw'r rhain ac maent yn cael eu creu er mwyn rhoi'r pŵer i berchennog y rhent orfodi perchennog y tir i gyflawni ei gyfamodau personol (er enghraifft addewid i gynnal a chadw ffens) neu i sicrhau bod perchennog y tir yn talu i berchennog y rhent am ddarparu gwasanaethau neu gynnal a chadw a thrwsio. Bydd unrhyw rent-daliadau eraill a grëwyd cyn 22 Awst 1977 yn cael eu dileu ar 22 Gorffennaf 2037 os nad ydynt wedi eu dileu eisoes. |
| Rhif teitl |
| Wrth gofrestru eiddo, mae'r Gofrestrfa Tir yn rhoi cyfeirnod unigryw iddo, sef y 'rhif teitl'. Er enghraifft gellir roi'r rhif teitl CYM9988779 i gofrestriad yn Sir Gaerfyrddin. |
| Rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf |
|
Dull yw hwn o warchod budd mewn ystad ddigofrestredig sy'n effeithio ar dir. Gall rhybuddiad warchod amrywiaeth eang o fuddion, er enghraifft, rhent-daliadau a rhyddfreintiau.
Ar gyfer pob rhybuddiad ceir 'teitl rhybuddiad' - cofnod, gyda rhif unigryw, sy'n cynnwys manylion y rhybuddiad a'r datganiad sy'n ei gefnogi a chynllun sy'n dangos hyd a lled y tir y mae'r rhybuddiad yn effeithio arno.
Nid yw rhybuddiad yn gofrestriad o unrhyw ystad mewn tir. Ei ddiben yw peri hysbysiad i'r person a gyflwynodd y rhybuddiad pan dderbynnir cais am gofrestriad cyntaf.
Gall fod mwy nag un rhybuddiad yn gysylltiedig â'r un eiddo.
|
| Rhydd-ddaliad |
| Y peth agosaf i berchnogaeth lwyr a pharhaol sydd gennym. Y Goron yn unig a all berchen yn llwyr ar dir yng Nghymru a Lloegr. |
| Ymholiad am eiddo |
|
Pan fyddwch yn gwneud ymholiad am eiddo rydym yn ceisio cysoni'r cyfeiriad rydych yn ei ddarparu i ni â'n cronfa ddata o gyfeiriadau.
Darperir y cyfeiriadau post yn ein cronfa ddata gan Swyddfa'r Post yn wreiddiol (o'u Ffeil o Gyfeiriadau Post). Rydym yn ategu gwybodaeth o'r manylion cofrestru i'r cyfeiriadau. Rydym hefyd yn ychwanegu eiddo newydd pan wneir cofrestriadau cyntaf. Ar ben hyn, rydym yn derbyn manylion am eiddo newydd a diwygiedig o'r Arolwg Ordnans. Bydd eich ymholiad yn cael ei gymharu â'r wybodaeth yn ein cronfa ddata a chofnodion mwy na 20 miliwn o gofrestriadau yng Nghymru a Lloegr. |