A oes angen help arnoch i ddefnyddio cyfleusterau'r gwasanaeth hwn? Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor ar sut i leoli eiddo a sut i lwytho i lawr unrhyw ddogfennau sydd o ddiddordeb ichi.
Sut y gall y Lleolwr Tir o'r Awyr fod yn ddefnyddiol imi?
Lleolwr Tir o'r Awyr yw enw'r offeryn chwilio sy'n eich galluogi i ddefnyddio mapiau a/neu ffotograffau o'r awyr i ddod o hyd i eiddo sydd o ddiddordeb ichi. Yna gallwch brynu'r gofrestr teitl, cynllun teitl, ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ar y gofrestr os ydynt ar gael ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Bydd yn eich cynorthwyo i leoli eiddo os ydych yn gwybod holl fanylion y cyfeiriad, rhai ohonynt, neu ddim byd o gwbl.
Sut y gallaf ddod i hyd i wybodaeth am eiddo trwy ddefnyddio'r Lleolwr Tir o'r Awyr?
Mae pedair prif tair y gallwch ddefnyddio'r Lleolwr Tir o'r Awyr i gael gwybodaeth am yr eiddo sydd o ddiddordeb ichi. Yna gallwch brynu'r gofrestr teitl, cynllun teitl, ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ar y gofrestr os ydynt ar gael ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Gallwch chwilio trwy ddefnyddio'r map yn unig (hwn fydd y cynnig cyntaf bob amser), neu'r ddelwedd o'r awyr yn unig, neu gyfuniad o'r ddau, trwy ddewis y tabiau gwahanol ar frig y ddelwedd.
Awgrymiadau chwilio i'ch helpu i ddefnyddio'r Lleolwr Tir o'r Awyr
Defnyddio rhywfaint o'r cyfeiriad neu'r holl gyfeiriad: Dewiswch ymholiad o'r map. Gallwch gofnodi unrhyw gyfuniad o wybodaeth cyfeiriad gywir, a bydd gwasgu chwilio yn cynhyrchu map o'r ardal. Wrth ichi gyrraedd y lefel fwyaf manwl bydd y botwm 'Dangos Eiddo' i'w weld. (Y lefel fwyaf manwl sydd gennym yw lefel tŷ a stryd, sef graddfa 1/2500 neu 1/1250). Bydd dewis yr opsiwn hwn yn newid y cyrchydd o groes i radiws. Yna gallwch ddefnyddio'r Chwiliad Radiws i weld manylion yr eiddo sydd o ddiddordeb ichi.
Defnyddio’r swyddogaeth Chwyddo a chanoli: Dewiswch y botwm Chwyddo a chanoli. Defnyddiwch y cyrchwr i glicio ar y map/delwedd o’r awyr i chwyddo a chanoli’r ardal sydd o ddiddordeb. Pan fydd yr ardal sydd o ddiddordeb i chi wedi’i chwyddo i raddfa 1/2500 neu 1/1250, bydd y botwm ‘Dangos eiddo’ ar gael. Cliciwch ar y botwm hwn i newid y cyrchwr i radiws cylch a defnyddiwch y radiws hwn i ddewis yr eiddo/ardal sydd o ddiddordeb i chi. Dangosir rhestr o gyfeiriadau ar gyfer yr ardal o fewn y radiws, yn dechrau gyda’r rhai sy’n agosaf i’r canol.
Dewis y raddfa: Dewiswch ymholiad o'r map. Gallwch ddewis graddfeydd gwahanol o'r gwymplen sydd ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i'r ardal sydd o ddiddordeb i chi. Y lefel fwyaf manwl sydd gennym yw lefel tŷ a stryd, sef graddfa 1/2500 neu 1/1250. Wrth ddewis y raddfa hon, bydd y botwm 'Dangos Eiddo' i'w weld. Bydd clicio ar y botwm hwn yn newid y cyrchydd o groes i radiws. Yna gallwch ddefnyddio'r Chwiliad Radiws i weld manylion yr eiddo sydd o ddiddordeb ichi.
Sut ydw i'n symud o gwmpas y map a/neu ffotograffau o'r awyr i weld yr ardal sydd o ddiddordeb imi?
Gallwch symud o gwmpas y mapiau a'r ffotograffau o'r awyr fel a ganlyn:
Gwasgwch 'Gogledd' i symud y map a/neu'r ffotograff o'r awyr i fyny
Gwasgwch 'Dwyrain' i symud y map a/neu'r ffotograff o'r awyr i'r dde
Gwasgwch 'De' i symud y map a/neu'r ffotograff o'r awyr i lawr
Gwasgwch 'Gorllewin' i symud y map a/neu'r ffotograff o'r awyr i'r chwith
Cliciwch ar y botwm 'Canoli Map' a bydd y map a/neu'r ffotograff o'r awyr yn canoli ar yr ardal a ddewiswyd gennych.
Dewiswch y botwm 'Chwyddo a Chanoli Map' a fydd yn canoli'r map
a/neu'r ffotograff o'r awyr ar yr ardal sydd o ddiddordeb i chi
tra ar yr un pryd yn 'chwyddo mewn' ar yr ardal honno bob tro
rydych yn clicio arno nes cyrraedd graddfa 1/1250, sef y
lefel fwyaf manwl sydd gennym.
Defnyddiwch y gwymplen i ddewis graddfeydd gwahanol.
I ddefnyddio'r Chwiliad
Radiws i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth am yr eiddo sydd
o ddiddordeb ichi, bydd rhaid ichi fod ar raddfa 1/2500 neu 1/1250 sy'n
ymddangos fel lefel stryd a thŷ os ydych yn defnyddio'r ffotograff
o'r awyr.
Pryd y gallaf ddefnyddio'r botwm 'Dangos eiddo' i gael y wybodaeth sydd o ddiddordeb imi?
Dim ond wrth gyrraedd lefel stryd a thŷ, sef graddfa 1/2500 neu 1/1250 y gallwch glicio ar y botwm 'Dangos eiddo'. Dyma pryd y gallwch ddefnyddio'r Chwiliad Radiws i weld gwybodaeth am yr eiddo sydd o ddiddordeb ichi. Os oes gennym wybodaeth am yr ardal hon, bydd y canlyniadau yn ymddangos uwchben y map (os oes un canlyniad) ac islaw'r map (os oes mwy nag un canlyniad).
Beth yw'r chwiliad radiws?
Mae'r chwiliad radiws yn caniatáu ichi gael y canlyniadau mwyaf manwlgywir ag y bo modd. Dim ond trwy wasgu'r botwm 'Dangos Eiddo' ar raddfa 1/2500 neu 1/1250 y gallwch ddefnyddio'r chwiliad radiws.
Cylch o gwmpas y cyrchydd yw'r radiws. Gallwch ddewis pa faint sy'n fwyaf defnyddiol ichi allan o 5m, 10m neu 20m. Wrth ichi ddewis y botwm 'Dangos Eiddo' mae'r cyrchydd yn newid o groes i radiws. Bydd rhaid ichi sicrhau eich bod yn gosod y cyrchydd yng nghanol y radiws ar yr ardal sydd o ddiddordeb ichi er mwyn cael y wybodaeth gywir am yr eiddo.
Mae'r canlyniad(-au) cyntaf i'w gweld yn berthnasol i'r eiddo sy'n uniongyrchol o dan y cyrchydd. Mae'n bosibl y dangosir canlyniad(-au) pellach a bydd y rhain yn berthnasol i eiddo o fewn gweddill y radiws.
Sut y gallaf chwilio ardaloedd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban?
Mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw gwybodaeth am eiddo ar gyfer tir sy'n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn chwilio yn rhywle arall, ni allwn ddarparu gwybodaeth am eiddo ichi. Mae gan y gwledydd hyn eu Cofrestrfeydd eu hunain. Dyma'r cysylltau i wefannau Cofrestrfeydd Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pam nad oes unrhyw ffotograffau o'r awyr ar gael o'r ardal sydd o ddiddordeb i mi?
Mae hi'n eithaf posibl nad oes modd ichi weld ffotograff o'r awyr o'r ardal rydych yn chwilio amdani. Gallwch bob amser ddefnyddio'r map i ddod o hyd i'r ardal sydd o ddiddordeb ichi, a chwblhau chwiliad ohono.
Mae ffotograffau o'r awyr ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr ar hyn o bryd ac mae'n cyflenwr yn darparu ffotograffau newydd inni trwy'r amser.
Wrth i ffotograffau newydd fod ar gael byddwn yn eu llwytho i'r system. Mae'r broses yn llyfn ac yn digwydd heb amharu ar ein gwasanaeth.