Pam nad oes modd imi ddod o hyd i'r ardal sydd o ddiddordeb imi trwy ddefnyddio'r ffotograffau o'r awyr?

Os yw'n anodd ichi ddod o hyd i'ch tŷ neu stryd neu'r ardal o dir sydd o ddiddordeb ichi rhowch gynnig ar y botymau graddfa i chwyddo mewn ac allan o'r ddelwedd i weld tirnod lleol adnabyddus.

Os ydych wedi dod o hyd i'r ardal sydd o ddiddordeb i chi, ond hoffech gael golwg fwy manwl, gallwch glicio ar y botwm 'Chwyddo a Chanoli Map'. Bydd hyn yn dangos yr ardal sydd o ddiddordeb ichi yn fwy manwl ac yng nghanol y map.

Fel arall gallwch ddefnyddio'n nodwedd troshaenu map/ffotograff o'r awyr, sy'n rhoi'r cyfle ichi osod map neu ddelwedd o'r awyr dros y ddelwedd rydych yn edrych arni ar hyn o bryd. I ddefnyddio'r nodwedd hon, wrth edrych ar naill ai map neu ffotograff o'r awyr, cliciwch ar y botwm 'y ddau'. Er enghraifft, bydd hyn yn rhoi delwedd map dros y ffotograff o'r awyr i'ch helpu i wybod ble rydych trwy ddatgelu enwau'r ffyrdd a nodweddion eraill ac i'r gwrthwyneb.

Yna gallwch lywio o gwmpas y ddelwedd trwy wasgu'r botymau: 'Gogledd', 'Dwyrain', 'De', a 'Gorllewin'.

Rwyf wedi llwytho i lawr y gofrestr teitl a'r cynllun teitl o'r canlyniadau a ddatgelwyd gyda'r ffotograff o'r awyr, ond nid yw'n berthnasol i'r tir sydd o ddiddordeb imi.

Mae'n bosibl naill ai ein bod wedi methu â chysoni'n electronig manylion yr eiddo a roddwyd â'n cofnodion, neu mae'r tir yn ddigofrestredig. Mae canran sylweddol o'r tir yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig ac mae'r canran hwn yn cynyddu yn gyson. I fod yn sicr a yw'r tir yn gofrestredig ai peidio cliciwch ar y testun canlynol sydd wedi'i danlinellu a llenwch ffurflen chwiliad o'r map mynegai a'i hanfon atom. Fel rheol ni ddatgelir mwy na deg teitl cofrestredig ac os nad yw hyn yn wir byddwn yn cysylltu â chi i ofyn sut yr hoffech symud ymlaen.

Os nad oes cyfeiriad eiddo gan y tir sydd o ddiddordeb i chi, atodwch gynllun, yn ddelfrydol wedi'i dynnu i raddfa ac yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1/1250 neu 1/2500. Dylech ddangos y raddfa a'r gogledd ar y cynllun, gan ddefnyddio lliwio addas i ddangos stent yr eiddo a'i safle mewn perthynas â ffyrdd agos a thirnodau eraill. Dylid hefyd dangos lefel y llawr ar gynlluniau fflatiau neu fflatiau deulawr.

Sylwch nad oes modd inni ad-dalu'r ffi am unrhyw gopïau o gofrestri teitl, cynlluniau teitl, neu ddogfennau a ddewiswyd i'w llwytho i lawr gennych.

Gallaf weld yr eiddo neu'r tir ar y ffotograff ond nid oes unrhyw wybodaeth i'w llwytho i lawr.

Mae'n bosibl na fu modd inni gysoni'n electronig manylion yr eiddo a roddwyd gyda'n cofnodion, neu mae'r tir yn ddigofrestredig. Mae canran sylweddol o'r tir yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig ac mae'r canran hwn yn cynyddu yn gyson. I fod yn sicr a yw'r tir yn gofrestredig ai peidio cliciwch ar y testun canlynol sydd wedi'i danlinellu a llenwch ffurflen chwiliad o'r map mynegai a'i hanfon atom. Fel arfer nid oes dim i'w dalu am y gwasanaeth hwn, oni bai fod mwy na deg teitl cofrestredig yn cael eu datgelu, ac os bydd hyn yn digwydd byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a ydych am inni barhau â'ch cais.

Os nad oes cyfeiriad eiddo gan y tir sydd o ddiddordeb i chi, atodwch gynllun, yn ddelfrydol wedi'i dynnu i raddfa ac yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1/1250 neu 1/2500. Dylech ddangos y raddfa a'r gogledd ar y cynllun, gan ddefnyddio lliwio addas i ddangos stent yr eiddo a'i safle mewn perthynas â ffyrdd agos a thirnodau eraill. Dylid hefyd dangos lefel y llawr ar gynlluniau fflatiau neu fflatiau deulawr.

Sylwch nad oes modd inni ad-dalu'r ffi am unrhyw gopïau o gofrestri teitl, cynlluniau teitl, neu ddogfennau a ddewiswyd i'w llwytho i lawr gennych.

Mae'r ffotograff o'r awyr yn dangos mwy o fanylion neu fanylion gwahanol i'r hyn a ddangosir ar gynllun teitl y Gofrestrfa Tir rwyf wedi'i lwytho i lawr.

Mae cynllun teitl y Gofrestrfa Tir yn dangos, fel arfer trwy ymylu coch, stent cyffredinol yr eiddo cofrestredig dan y rhif teitl a ddangosir. Mae cynlluniau teitl yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans sydd ar gael ar adeg cofrestru, fel rheol ar raddfa naill ai 1/1250 neu 1/2500 ac nid ydynt yn cael eu diweddaru fel rheol. Gall map yr Arolwg Ordnans ddangos nodweddion fel ffensys a gwrychoedd gyda llinell sengl neu ddwbl ac mae'n bosibl nad yw'n dangos tai allan sy'n llai na maint penodol neu strwythurau dros dro. Fodd bynnag, mae'r Delweddau o'r Awyr yn dangos mwy o fanylion na hyn. Mae’n bosibl na ddangosir ar yr cynllun teitl unrhyw newidiadau i adeiladau neu derfynau a ddigwyddodd ers y dyddiad cofrestru sy'n amlwg ar ffotograff o'r awyr mwy diweddar.

Mae'r ffotograff o'r awyr yn dangos llai o fanylion neu fanylion gwahanol i'r hyn a welais pan ymwelais â'r ardal y tro diwethaf.

Er bod y ffotograffau o'r awyr yn cael eu diweddaru mor aml ac mor gyflym ag y bo modd, bydd sefyllfaoedd lle gwelwch rywbeth nad yw'n ymddangos ar y ffotograffau o'r awyr, tai a adeiladwyd yn ddiweddar er enghraifft.

Mae'n bosibl bod gennym wybodaeth am eiddo ar gyfer yr ardal ond nid oes modd ichi weld y newidiadau ar y ddelwedd o'r awyr, am nad yw'r ardal hon wedi'i diweddaru eto. Felly, gallwch ddefnyddio'r map i chwilio.

Fel arall, cliciwch ar y testun canlynol sydd wedi'i danlinellu a llenwch ffurflen chwiliad o'r map mynegai a'i hanfon atom. Fel arfer nid oes dim i'w dalu am y gwasanaeth hwn, oni bai fod mwy na deg teitl cofrestredig yn cael eu datgelu, ac os bydd hyn yn digwydd byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a ydych am inni barhau â'ch cais.

Os nad oes cyfeiriad post gan y tir sydd o ddiddordeb ichi atodwch gynllun, yn ddelfrydol wedi'i dynnu i raddfa ac yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1/1250 neu 1/2500. Dylech ddangos y raddfa a'r gogledd ar y cynllun, gan ddefnyddio lliwio addas i ddangos stent yr eiddo a'i safle mewn perthynas â ffyrdd a nodweddon agos. Dylid hefyd dangos lefel y llawr ar gynlluniau fflatiau neu fflatiau deulawr.

A oes modd imi gopïo neu lwytho i lawr ffotograff o'r awyr?

Yn anffodus oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, mae'n anghyfreithlon i gopïo neu lwytho i lawr y delweddau o'r awyr ar ein gwefan.

Pa mor hen yw'r ffotograffau o'r awyr?

Mae'r holl ffotograffau heb eu dyddio ac maent i gyd wedi'u tynnu ers gwanwyn 1999 ond mae'r cwmni sy'n darparu'n data yn hedfan yn rheolaidd, felly gall rhai ardaloedd fod mor gyfoes â'r ychydig fisoedd diweddaraf. Maent yn canolbwyntio yn gyntaf ar yr ardaloedd mwyaf poblog lle mae'r galw yn uwch.

Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan