Beth yw'r dangosydd Pris a Dalwyd/Gwerth a Ddatganwyd?
Mae'r dangosydd newydd hwn i'w weld yn y tabl canlyniadau pan fydd y pris a dalwyd/gwerth a ddatganwyd am yr eiddo wedi'i gofnodi. Bydd gwybodaeth am bris ar gofrestri'r rhan fwyaf o eiddo sydd wedi newid dwylo ers Ebrill 2000.
Cofnodwyd y Pris a Dalwyd yn y gofrestr ers 1 Ebrill 2000 ac mae’n cynrychioli’r gydnabyddiaeth neu’r pris a ddangosir yn y weithred drosglwyddo a gyflwynwyd gyda ni. Lle nad yw gweithred drosglwyddo yn manylu ar y gydnabyddiaeth neu’r pris a dalwyd, byddwn yn cofnodi gwerth yr eiddo ar sail gwybodaeth yn y ffurflen gais. Nid ydym wedi gwirio’r pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd ac mae’n bosibl nad yw’n cynrychioli gwerth marchnad llawn yr eiddo.
Mae gennyf ddiddordeb o hyd mewn gwybod pryd y diweddarwyd y gofrestr teitl y tro diwethaf. Sut y gallaf wneud hyn?
Mae'r dyddiad diweddaru diwethaf i'w weld ar gopi o'r gofrestr teitl. Gallwch ei lwytho i lawr o'r wefan hon.
Hoffwn wybod a yw fy eiddo yn gofrestredig yn fy enw i. Sut y gallaf gael y wybodaeth hon?
Mae manylion perchnogaeth ar gael mewn copi o'r gofrestr teitl. Gallwch ei lwytho i lawr o'r wefan hon.
Sut ydw i'n gwybod a yw eiddo'n gofrestredig?
Bydd y tabl canlyniadau yn cynnwys neges yn dweud wrthych os oes gwybodaeth ar gael ar gyfer yr eiddo sydd o ddiddordeb ichi. Trwy glicio ar y cyswllt hwn cewch weld pa wybodaeth sydd ar gael i'w phrynu.Os oes arnoch angen gwybodaeth am gyfeiriadau â nodyn sy'n dweud nad oes unrhyw wybodaeth ar gael, gallwch anfon cais am chwiliad â llaw atom trwy'r post. Enw'r chwiliad hwn yw chwiliad o'r map mynegai. Gallwch lenwi ffurflen chwiliad o'r map mynegai ar-lein (bydd canllawiau yn ymddangos ar y sgrîn).
Mae gennyf ddiddordeb mewn cyflwyno Chwiliad Swyddogol neu wneud cais am Gopi Swyddogol. Sut y gallaf gael y rhif teitl er mwyn llenwi fy ffurflen gais?
Mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw mynegai o bob teitl cofrestredig a chais am gofrestriad cyntaf sy'n aros i'w brosesu. Gall unrhyw un wneud cais i chwilio'r map mynegai trwy ddefnyddio Ffurflen SIM.
Diben SIM yw darganfod a yw eiddo yn gofrestredig ai peidio ac os yw, i gael y rhif teitl.
Gall unrhyw un wneud cais am chwiliad swyddogol o'r map mynegai. Gallwch wneud cais trwy'r post,
ffacs, Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS), trwy'r Gwasanaethau
Ffôn neu ar lafar yn un o'n swyddfeydd. Gellir disgrifio unrhyw nifer o eiddo ar un ffurflen gais.
Yr ardal weinyddol a wasanaethir gan bob Swyddfa'r Gofrestrfa Tir yw'r unig gyfyngiad. Fodd bynnag,
os ydych yn llwytho’r ffurflen gais i lawr o’r Gofrestr Tir Ar-lein, sylwch nad oes modd disgrifio
mwy nag un eiddo ar y ffurflen gais honno.
Pa mor hir fydd rhaid imi aros am ganlyniad fy SIM?
Mae'r Gofrestrfa Tir yn ceisio cwblhau pob cais am SIM ymhen dau ddiwrnod lle bo hynny'n bosibl.
Rwyf yn cynrychioli sefydliad masnachol sy'n dymuno cael gwybodaeth am nifer mawr o eiddo. A oes gan y Gofrestrfa Tir unrhyw wasanaethau i'm cynorthwyo?
Mae nifer o Wasanaethau Masnachol gan y Gofrestrfa Tir gyda'r nod o gynorthwyo Sefydliadau Masnachol,
Awdurdodau Lleol, Datblygwyr Eiddo a Gwerthwyr Tai. Os ydych yn cynrychioli sefydliad o'r fath ac os
yw'ch cais o natur fasnachol ac yn berthnasol i nifer mawr o eiddo, efallai yr hoffech gysylltu â'n
hadran Gwasanaethau Masnachol trwy e-bost i:
Commercial.Services@landregistry.gsi.gov.uk.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am gofrestru tir
cliciwch yma
i gael manylion cysylltu. Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn copïau swyddogol o'r gofrestr teitl,
cynllun teitl ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ar y gofrestr yn electronig a thalu'r ffïoedd
trwy ddebyd awtomatig o gyfrif credyd, efallai bydd y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol o ddiddordeb i
chi. I gael pecyn gwybodaeth ffoniwch 0844 8920393 neu anfonwch e-bost i admin@landregistrydirect.gov.uk