Ffotograff o'r awyr
Datganiad preifatrwydd

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi llunio'r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad cadarn i gadw'r wybodaeth bersonol a gasglwn ar ein gwefan yn ddiogel a chyfrinachol. Diben y Datganiad Preifatrwydd Ar-lein hwn yw eich hysbysu am y gwahanol fathau o wybodaeth amdanoch chi rydym yn eu casglu ar-lein wrth ichi ymweld â www.cofrestrfatir.gov.uk ("ein gwefan"), sut y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno, a ydym yn ei datgelu i un rhywun a'r dewision sydd gennych ynglŷn â'n defnydd o'r wybodaeth honno a'ch gallu chi i'w chywiro.

Gall y datganiad hwn newid o bryd i'w gilydd, felly dylech ei ail-ddarllen yn achlysurol. Os hoffech gadw cofnod parhaol o'r datganiad preifatrwydd cyfredol hwn, gallwch gadw'r dudalen hon neu argraffu copi ohoni gan ddefnyddio'r cyswllt ar frig y dudalen hon.

1. Gwefannau y mae'r Datganiad hwn yn berthnasol iddynt
  Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i gasglu a defnyddio data ar unrhyw wefan sydd â chyswllt â'r datganiad hwn ac sydd o dan reolaeth uniongyrchol y Gofrestrfa Tir, gan gynnwys y rhai isod ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
  • landregistry.gov.uk
  • cofrestrfatir.gov.uk
  • landregistrydirect.gov.uk
  • landregistrydirect.com
  • e-conveyancing.gov.uk
  • e-drawsgludo.gov.uk
  • strategy.landreg.gov.uk
  • legislation.landreg.gov.uk
  • search.landreg.gov.uk
  • mobile.landreg.gov.uk
Nid yw'r datganiad hwn yn berthnasol i gysylltau i wefannau eraill trydydd partïon a geir ar y wefan hon.
2. Pa wybodaeth a gasglwn
 

Yn gyffredinol, gellir rhannu'r wybodaeth yn ddau gategori: Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn a Gwybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn.

Mae Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn: yn datgelu ffeithiau penodol amdanoch chi i ni. Gall gynnwys eich enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad ebost, eich cyflogwr a theitl eich swydd, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain. Byddwn yn gofyn am Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn archebu cynnyrch neu wasanaeth, cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hyrwyddol, llenwi holiaduron a gohebu â ni. Byddwn hefyd yn gofyn am Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn gofyn i ni anfon cynnyrch neu wybodaeth yn uniongyrchol at bobl eraill; dan yr amgylchiadau hyn byddwn yn casglu'r wybodaeth a gyflwynir gennych am y derbynnydd. Bydd yn amlwg ichi pan fyddwch ar ran o'n gwefan lle mae angen ichi roi gwybodaeth bersonol achos byddwn yn gofyn amdani a bydd gennych ddewis ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno.

Gwybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn: Nid yw'n bosibl adnabod unigolyn penodol trwy'r wybodaeth hon ar ei phen ei hun. Gall y wybodaeth a gasglwn pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan gynnwys y canlynol: "URL" (Uniform Resource Locator) (1) y wefan yr oeddech yn ymweld â hi cyn dod i'n gwefan ni, pa dudalennau rydych yn ymweld â nhw ar ein gwefan, pa wefan y byddwch yn mynd iddi nesaf, pa borwr a ddefnyddiwyd gennych i ddod i'n gwefan, eich cyfeiriad "IP" (Internet Protocol)(2) ac unrhyw eitemau rydych wedi chwilio amdanynt ar ein gwefan. Mae'r Datganiad hwn yn cynnwys hefyd mwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cookies a thechnoleg arall i gasglu'r data hyn.
3. Pam rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch
  Ein prif amcanion wrth gasglu gwybodaeth yw darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a sicrhau bod pob ymwelwr yn cael profiad didrafferth, effeithlon a phersonol wrth ddefnyddio'n gwefan. Er enghraifft, os byddwch yn gofyn am wybodaeth ar ein gwefan, byddwn yn defnyddio'r Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn i gyflenwi'ch archeb neu i ddarparu'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Byddwn yn edrych ar y Wybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn yn ei chrynswth er mwyn dadansoddi arferion ein cwsmeriaid. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan ac i fesur faint o ddiddordeb sydd yn y gwahanol dudalennau. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella cynnwys ein gwefan ac i'w gwneud yn haws ei defnyddio.
4. Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth
 

Rydym yn casglu gwybodaeth ac yn ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys y canlynol:

Holiaduron ac arolygon ar-lein: Rydym yn casglu Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn oddi wrth gwsmeriaid sy'n gwirfoddoli i lenwi holiaduron neu gymryd rhan mewn arolygon. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella'n cynnyrch a'n gwasanaethau. Cesglir y wybodaeth hon naill ai gan y Gofrestrfa Tir yn uniongyrchol neu gan drydydd parti dan gytundeb.

Cylchlythyron ac ebyst hyrwyddol: Byddwn yn casglu Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn gofyn am dderbyn cylchlythyron, ebyst hyrwyddol a gwybodaeth arall. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani.

Gwybodaeth Cysylltu: Os ydych yn cysylltu â ni, gallwn gadw cofnod o'ch gohebiaeth neu sylwadau, gan gynnwys Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn, mewn ffeil sy'n unigryw ichi. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu gwell gwasanaeth ichi os byddwch yn cysylltu â ni eto.
5. Rhannu eich gwybodaeth
  Ni fyddwn yn gwerthu, masnachu neu rentu i eraill y Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn a gasglwn.
6. Eich dewision
  Ni fydd y Gofrestrfa Tir yn defnyddio neu yn rhannu'r Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn a gasglwn ar ein gwefan mewn modd nad yw'n gysylltiedig â'r diben y rhoddwyd y wybodaeth ar ei gyfer, heb gynnig ichi'r dewis i roi eich caniatâd i'r fath ddefnydd ai peidio.
7. Gweld a newid eich gwybodaeth
  Mae'r Gofrestrfa Tir yn awyddus i sicrhau bod gennym gofnod cywir a chyflawn o'ch gwybodaeth a'ch dewision. Os hoffech weld neu newid eich gwybodaeth, gallwch wneud hyn ar-lein lle bo'n bosibl neu, fel arall, rhowch wybod i ni trwy anfon ebost gyda'ch enw, cyfeiriad post llawn, cyfeiriad ebost, a gwybodaeth berthnasol am danysgrifiadau a chofrestriadau sydd gennych gyda'r Gofrestrfa Tir, at: privacy@landregistry.gov.uk a byddwn yn gwneud popeth o fewn rheswm i gwrdd â'ch cais.
8. Defnyddio cookies ar y wefan hon
 

"Cookie" yw ffeil fach o ddata mae eich porwr gwe yn ei chreu a chadw ar yriant caled eich cyfrifiadur. Rydym yn defnyddio cookies pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, yn ymateb i holiaduron neu arolygon ar-lein neu yn gofyn am wybodaeth. Nid yw'r ffaith eich bod yn derbyn cookies ar ein gwefan yn golygu ein bod yn gallu gweld unrhyw Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn ac mae'r wybodaeth a geir mewn unrhyw cookie(s) a osodwyd gennym ar gael i'n gwefan ni yn unig (a neb arall). Mae'r wybodaeth a gasglwn yn ein galluogi i ddadansoddi patrymau defnyddio ein gwefan. Yn y pendraw byddwn yn gallu darparu gwell profiad ar ein gwefan trwy wella'r cynnwys a'i gwneud yn haws ei defnyddio.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cookies yn awtomatig ond, fel rheol, gallwch wrthod cookies neu ddewis derbyn rhai cookies yn unig trwy addasu eich porwr. Os penderfynwch wrthod cookies, mae'n bosibl na fydd rhai nodweddion ein gwefan ar gael ichi ac na fydd rhai tudalennau yn cael eu harddangos yn iawn.

Mae angen galluogi Cookies i ddefnyddio'r Gofrestr Tir Ar-lein.

9. Gwarchod eich gwybodaeth
  Mae'r Gofrestrfa Tir yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynom ac rydym yn ymrwymo i warchod y wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni. Er mwyn atal mynediad heb awdurdod, cynnal cywirdeb a sicrhau defnydd priodol o'r wybodaeth, rydym yn defnyddio dulliau ffisegol, electronig a gweinyddol i warchod a diogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
10. Cysylltau i wefannau eraill
  Mae rhai rhannau o'n gwefan yn cynnwys cysylltau i wefannau trydydd partïon er eich hwylustod a gwybodaeth. O ddefnyddio'r cysylltau hyn byddwch yn gadael gwefan y Gofrestrfa Tir. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan nad yw'n perthyn i'r Gofrestrfa Tir, hyd yn oed un sy'n arddangos logo y Gofrestrfa Tir, mae'n rhaid ichi gofio nad ydym yn rheoli cynnwys y wefan honno ac nad ydym yn gyfrifol am ei threfnau preifatrwydd. Rydym yn eich argymell i ddarllen yn ofalus polisi preifatrwydd unrhyw wefan y byddwch yn ymweld â hi. Nid yw'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i drefnau gwybodaeth y gwefannau hynny sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Gall y gwefannau eraill hyn anfon eu cookies eu hunain at ddefnyddwyr, gasglu data neu ofyn am wybodaeth bersonol.
11. Newidiadau i'r datganiad hwn
  Os bydd telerau'r Datganiad Preifatrwydd Ar-lein hwn yn newid neu os ychwanegir atynt, byddwn yn cyhoeddi'r newidiadau hynny yma. Felly, byddwch bob amser yn gwybod pa wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein, sut rydym yn ei defnyddio a pha ddewision sydd gennych. Cofiwch edrych ar y dudalen hon cyn mynd ymlaen i ddefnyddio'n gwefan.
12. Cysylltu â ni
  Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â'r defnydd a wna'r Gofrestrfa Tir o'ch gwybodaeth neu am y Datganiad Preifatrwydd hwn, anfonwch ebost at: privacy@landregistry.gov.uk
Nodiadau:
1 URL yw'r cyfeiriad byd-eang ar gyfer dogfennau ac adnoddau eraill ar y We Fyd-Eang. Er enghraifft, http://www.cofrestrfatir.gov.uk/ yw'r URL ar gyfer tudalen hafan y Gofrestrfa Tir yn y DU.

2 Mae cyfeiriad IP yn ddynodydd ar gyfer cyfrifiadur neu beiriant ar rwydwaith Transmission Control Protocol/Internet Protocol ("TCP/IP") fel y We Fyd-Eang. Mae rhwydweithiau yn defnyddio'r prototol TCP/IP i gyfeirio gwybodaeth ar sail cyfeiriad IP y cyrchfan. Mewn geiriau eraill, rhif a roddir yn awtomatig i'ch cyfrifiadur pan fyddwch yn syrffio'r We yw cyfeiriad IP. Mae'n caniatáu i weinyddion y We leoli ac adnabod eich cyfrifiadur. Mae angen cyfeiriad IP ar gyfrifiaduron er mwyn i ddefnyddwyr allu cyfathrebu, pori a siopa ar y Rhyngrwyd.

Rhagfyr, 2001.

Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan