Mae'r adran hon yn trafod problemau wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Wedi methu â dod o hyd i eiddo? Problemau gyda llwytho dogfennau i lawr? Dylech ddod o hyd i'r atebion yn yr adran hon.
Os na fydd yr Ymholiad am eiddo yn datgelu teitl, ydy hyn yn golygu bod yr eiddo yn ddigofrestredig?
Ddim o angenrheidrwydd. Os na ddatgelir teitl, gall fod am un o'r rhesymau canlynol:
- nid oedd modd i ni gysoni manylion yr eiddo a ddarparwyd â'n cofnodion trwy ddulliau electronig, neu
- nid oedd modd cysylltu'r teitlau gyda'r cyfeiriad yn y gronfa ddata (e.e. oherwydd bod y cyfeiriad yn anhysbys ar adeg cofrestru'r eiddo neu yn wahanol mewn rhyw ffordd i'r cyfeiriad a ddarparodd Swyddfa'r Post i ni).
I wybod yn bendant a yw eiddo wedi ei gofrestru ai peidio dylech lenwi ffurflen chwiliad o'r map mynegai a'i hanfon trwy'r post atom.
A fydd teitl yn gysylltiedig â thir cofrestredig bob amser?
Nid bob tro. Gall teitl ymwneud ag unrhyw un o'r canlynol:
Rhybuddiad yn erbyn Cofrestriad Cyntaf.
Bydd y gair 'Rhybuddiad' yn y disgrifiad o'r ddeiliadaeth yn dynodi hyn. Gweler yr Eirfa am fanylion ychwanegol am Rybuddiadau yn erbyn Cofrestriad Cyntaf.
Rhent-dâl
Bydd y gair 'Rhent-dâl yn y disgrifiad o'r ddeiliadaeth yn dynodi rhent-dâl cofrestredig. Gweler yr Eirfa am fanylion ychwanegol am rent-daliadau.
Maenor
Oddi ar i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym yn Hydref 2003 nid yw'n bosibl bellach cofrestru Arglwyddiaeth Maenor. Fodd bynnag, gellir archwilio teitlau Maenor a gofrestrwyd cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym.
Cais sy'n aros i'w brosesu.
Ceisiadau am gofrestriadau sy'n cael eu prosesu ar hyn o bryd yn ein swyddfeydd yw'r rhain. Gall y rhain fod am gofrestriad cyntaf o deitl rhydd-ddaliol neu brydlesol y tir neu drosglwyddiadau olynol o ran o'r tir cofrestredig neu brydlesi olynol o ran ohono neu o'r cyfan.
Nid yw cofrestri a chynlluniau teitl ceisiadau sy'n aros i'w prosesu ar gael ar ffurf electronig. Os byddwch yn defnyddio
Ffurflen OC1 i gael copïau papur, ticiwch yr ail ddewis ym mhanel 8 y ffurflen honno er mwyn dewis cael eich hysbysu pan fydd y cais wedi ei gwblhau. Gallwch wedyn naill ai gael copïau papur o'r gofrestr a'r cynllun teitl (oni bai bod y cais yn cael ei ddiddymu ac os felly, byddwn yn rhoi gwybod ichi) neu ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael copïau electronig.
A ddatgelir mwy nag un teitl ar gyfer unrhyw eiddo?
Gall hyn ddigwydd weithiau. Gall gwahanol rannau o'r eiddo fod wedi eu cofrestru o dan wahanol rydd-ddaliadau neu gall mwy nag un brydles effeithio arno. Er enghraifft gall fod prydles gan berchennog y rhydd-ddaliad i denant am 90 o flynyddoedd a gall fod is-brydles gan y tenant hwnnw i rywun arall am 50 o flynyddoedd. Byddai teitl ar wahân gan bob un o'r rhain.
A ddatgelir pob teitl sy'n effeithio ar eiddo?
Ddim o angenrheidrwydd. Mae'n bosibl bod cofrestriadau eraill heb eu datgelu am nad ydynt wedi cael eu cysylltu â'r cyfeiriadau yn ein cronfa ddata.
Os bydd y teitl yn cyfeirio at 'Rybuddiad yn erbyn Cofrestriad Cyntaf' bydd y tir sy'n destun y rhybuddiad hwnnw yn ddigofrestredig (ond gall fod yn destun cais am Gofrestriad Cyntaf sy'n aros i'w brosesu).
Pan ddatgelir teitl dylech sicrhau bod y cynllun yn cynnwys yr holl dir y mae gennych ddiddordeb ynddo. Gwelwch y cwestiwn hwn am ragor o fanylion
Beth am dir heb unrhyw gyfeiriad post?
Darllenwch yr Awgrymiadau Chwilio i'ch cynorthwyo i ddefnyddio Ymholiad o'r map er mwyn chwilio ar sail disgrifiadau o dir fel 'tir i'r gogledd o Heol yr Orsaf, yn agos i'r garej'. Os nad yw hyn o gymorth a hoffech wneud ymholiad am dir nad oes ffordd arall o'i ddisgrifio, dylech lenwi ffurflen Chwiliad o'r Map Mynegai. Bydd rhaid ichi anfon cynllun gyda'ch cais i sicrhau ein bod yn gallu adnabod y tir sydd o ddiddordeb ichi.
Yn ddelfrydol dylai'r cynllun gael ei dynnu i raddfa a bod yn seiliedig ar argraffiad diweddaraf map yr Arolwg Ordnans ar raddfa fawr. Dylid dangos y raddfa a'r gogledd. Dylid defnyddio lliwio addas i ddangos stent yr eiddo a dylai'i safle mewn perthynas â ffyrdd a nodweddion eraill agos fod yn amlwg. Dylid hefyd dangos lefel llawr yr eiddo ar gynlluniau fflatiau a fflatiau deulawr.
Beth ddylwn ei wneud os mae'n ymddangos bod y llwytho i lawr wedi methu?
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn ar y dudalen Ymholiad am Lwytho i lawr. Bydd angen eich Dynodydd Trafodiad WorldPay wrth law er mwyn inni wirio statws eich trafodiad gwreiddiol. Os yw wedi ei dderbyn gallwch geisio eto yn ddi-dâl. Os nad ydych yn gallu llwytho'ch PDF i lawr o hyd dylech wirio bod gosodiadau'ch cyfrifiadur yn cydweddu â'r gofynion. Fel arall, ewch i'n tudalen cysylltu a rhowch inni fwy o fanylion am eich problem.
Ble gallaf weld y Dynodydd Trafodiad WorldPay?
Mae'r Dynodydd Trafodiad WorldPay sydd ei angen arnom i'w weld yn yr e-bost a anfonwyd atoch i gydnabod bod eich taliad wedi'i gwblhau. Y rhif deg ffigwr a elwir 'Transaction ID' sy'n cael ei ddyfynnu yn y Manylion Trafodiad yw hon, ac nid y cyfeirnod 38 nod a elwir 'Merchant's Card ID'.
Pam ydw i'n cael trafferth argraffu rhai o ffurflenni'r Gofrestrfa Tir?
A ydych wedi gwirio'r gosodiadau argraffu ar eich cyfrifiadur? Yn ogystal â bod ar ffurf Adobe Acrobat, mae'n ffurflenni wedi eu dylunio i'w hargraffu ar bapur A4 ac ar sail cydraniad 300 dpi.
Pam nad ydwyf wedi derbyn y gofrestr teitl a/neu'r cynllun teitl y gofynnais amdanynt?
Efallai bydd rhaid ichi analluogi unrhyw feddalwedd atal testun naid (anti pop-up) neu unrhyw feddalwedd trydydd parti ychwanegol oherwydd y gall arwain at broblemau wrth lwytho'r ffeil PDF i lawr.
Anfonir y gofrestr teitl a'r cynllun teitl y gofynnwyd amdanynt at eich porwr ar ffurf ffeil PDF, yn hytrach na thrwy e-bost.
Byddwch yn gwybod bod y ffeil wedi cyrraedd pan fydd deialog 'Llwytho Ffeil i Lawr' yn ymddangos a chynnig yr opsiynau canlynol ichi: (Mae'n bosibl y gofynnir ichi ateb y cwestiwn hwn ddwywaith. Os felly, dylech ailadrodd eich dewis cyntaf).
- Agorwch y ffeil hon o'i lleoliad presennol
- Cadwch y ffeil hon ar ddisg
Os ydych am weld y ffeil PDF rhywbryd eto, gofalwch eich bod yn cadw'r ddogfen.
Fodd bynnag, os byddwn yn cael anhawster wrth greu'r ffeil o'n cronfa ddata byddwn yn anfon neges i'ch porwr gwe, sef 'Mae'n ddrwg gennym ond mae camgymeriad annisgwyl wedi codi. Cyn i'r camgymeriad hwn godi, bydd WorldPay wedi anfon ebost yn dweud bod eich taliad wedi ei awdurdodi. Peidiwch â phoeni - nid ydym wedi codi tâl am y trafodiad hwn. Mae'n bosibl mai problem dros dro yw hon a byddwch yn dymuno ceisio eto nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster.'
Pa feddalwedd sydd ei angen ar fy nghyfrifiadur i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn rydym yn argymell ichi gael Internet Explorer 5 (neu uwch) ac Adobe Reader 5 (neu uwch) ar eich cyfrifiadur, a'ch bod yn galluogi cookies. Os ydych yn defnyddio Internet Explorer 6, mae'n bosibl caniatáu i cookies trydydd parti weithio trwy ychwanegu cyfeiriadau gwe WorldPay a'r Gofrestr Tir Ar-lein yn y gosodiad preifatrwydd. I wneud hyn, dewiswch Offer (Tools) o'r bar offer ar y brig a dewiswch Opsiynau Rhyngrwyd (Internet Options). Bydd hyn yn agor y ffenestr Opsiynau Rhyngrwyd. Dewiswch y tab Preifatrwydd (Privacy) gan ofalu bod y gosodiad ar 'Canolig' (Medium). Yna cliciwch ar Golygu (Edit), ac ychwanegwch y canlynol yn y blwch Cyfeiriad Gwefan (Address of Web Site): http://www.landregisteronline.gov.uk Cliciwch ar Caniatáu (Allow). Yna rhowch y canlynol: https://select.worldpay.com/wcc/purchase a chliciwch ar Caniatáu eto. Cliciwch ddwywaith ar Iawn (OK) a cheisiwch eto ar y wefan.