Ffotograff o'r awyr
Cyfarwyddyd i'r gwasanaeth Pa wybodaeth sydd ar gael?

Mae'r Gofrestr Tir Ar-lein yn darparu mynediad hawdd i fanylion mwy nag 20 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Gellir llwytho i lawr copïau PDF o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a dogfennau a gedwir ar ffurf electronig.

Mae'r gofrestr teitl yn cynnwys manylion perchnogaeth ac, ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo sydd wedi newid dwylo ers Ebrill 2000, gwybodaeth am bris yr eiddo. Ni allwn ddarparu manylion unrhyw eiddo sydd heb ei gofrestru.

Pryd y gallaf ei chael?

Gallwch wneud Ymholiad am Eiddo unrhyw ddydd rhwng 7am a 12 canol nos, dydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae hyn i ganiatáu amser segur er mwyn i ni gynnal y system a'i datblygu. Gallwch bori'r wefan ar unrhyw amser ond ni allwch wneud ymholiadau tu allan i'r oriau hyn ar hyn o bryd.

Beth yw'r gost?
  • Codir £3 am bob cofrestr teitl (manylion pob eiddo)
  • Codir £3 am bob cynllun teitl (cynllun o'r eiddo)

Rhaid talu'r ffioedd hyn ar-lein gyda'ch cerdyn credyd/debyd gan ddefnyddio cyswllt diogel.

Pam y mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i mi?
Mae nifer o fanteision:
  • gallwch weld y gofrestr teitl, y cynllun teitl a/neu ddogfen y cyfeirir ati ar gofrestr eiddo sy'n perthyn ichi
  • gallwch ganfod pwy sy'n berchen ar eiddo penodol
  • gallwch weld hyd a lled eiddo
  • efallai fod gennych ddiddordeb mewn eiddo gwag sydd wedi dod i'ch sylw a'ch bod yn dymuno cysylltu â'r perchennog
  • mae'n bosibl eich bod yn les-ddeiliad neu yn rhentu eiddo a bod angen arnoch gysylltu â'r landlord
Pa fanylion am eiddo sydd ar gael?
Fel arfer bydd gwybodaeth o'r gofrestr teitl yn cynnwys:
  • disgrifiad o'r eiddo
  • enw'r perchennog
  • enw'r Rhoddwr Benthyg (os oes un)
  • y pris a ddatganwyd/gwerth a ddatganwyd (os yw wedi ei gofrestru ers 1 Ebrill 2000)
  • hawliau tramwy (nid hawliau tramwy cyhoeddus) neu hawliau eraill sy'n effeithio ar yr eiddo
  • cyfyngiadau neu amodau eraill

Bydd y manylion sydd gan y Gofrestrfa Tir yn cael eu diweddaru yn dilyn cais i'r swyddfa leol briodol. Fel rheol, gall hyn fod i fyny at ychydig o fisoedd ar ôl cwblhau trafodiad eiddo.

Gallwch weld enghraifft nodweddiadol o gofrestr teitl.

Gallwch hefyd weld enghraifft o gynllun teitl. Mae hwn yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans ar raddfa fawr ac yn dangos maint cyffredinol yr eiddo.

Oes hawl gan unrhyw un weld manylion am unrhyw eiddo?
Ers 3 Rhagfyr 1990 mae hawl gan y cyhoedd weld y gofrestr teitl (gan gynnwys cynlluniau teitl) yng Nghymru a Lloegr. Cyn hynny, perchnogion cofrestredig a'r rhai oedd â chaniatâd y perchennog yn unig oedd â'r hawl i weld cofrestr teitl.

Y Gofrestr Tir Ar-lein yw'r gwasanaeth cyntaf i alluogi i'r cyhoedd wneud hyn yn electronig.

Pa mor fawr yw'r ffeiliau?

  • Ar gyfartaledd mae ffeil sy'n cynnwys data o'r gofrestr teitl yn 12Kb
  • Ar gyfartaledd mae ffeil cynllun teitl yn 200Kb.

Ni allwn roi cyfartaledd maint ffeil ar gyfer dogfen. Bydd yr holl ddogfennau sy'n gallu cael eu llwytho i lawr yn llai na 6Mb. Nodir maint y ffeil ar y dudalen canlyniadau llwytho i lawr ar gyfer pob ffeil PDF.

Beth sydd ei angen arnaf i wneud ymholiad?

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Adobe Acrobat Reader
  • Cerdyn credyd/debyd dilys
  • Cyfeiriad ebost dilys
  • Argraffydd (yn ddewisol)
  • Dull o gadw'r ffeiliau os ydych am edrych arnynt eto (yn ddewisol)

Ydy'r porwr cywir gennyf?
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â safon W3C XHTML 1.0 ac felly dylech allu ei gweld gydag unrhyw borwr sy'n cydymffurfio â'r safon hon. Rhaid bod cookies wedi eu galluogi i ddefnyddio holl swyddogaethau'r wefan hon.

Ydy'r meddalwedd cywir gennyf?
Cedwir yr holl fanylion rydym yn eu darparu (cofrestr teitl a chynllun teitl) ar ffurf ffeil PDF. I lwytho ffeiliau PDF i lawr bydd angen fersiwn diweddar o Adobe Acrobat Reader arnoch. Gallwch lwytho Adobe Acrobat Reader i lawr yn rhad ac am ddim.
I lwytho Adobe Reader i lawr

Efallai bydd rhaid ichi analluogi unrhyw feddalwedd atal testun naid (anti pop-up) neu unrhyw feddalwedd trydydd parti ychwanegol oherwydd y gall arwain at broblemau wrth lwytho'r ffeil PDF i lawr.

Beth arall y dylwn ei wybod?
Os ydych chi am wneud ymholiad, y ffi yw £3 am bob cofrestr teitl a £3 am bob cynllun teitl. Bydd angen manylion eich cerdyn debyd neu gredyd i gwblhau'r trafodiad.

Os hoffech argraffu unrhyw dudalen - gan gynnwys yr ymateb i'ch ymholiad - gwnewch yn siwr bod eich cyfrifiadur wedi ei osod i argraffu A4. Gallwch, wrth gwrs, ddewis llwytho ymatebion i lawr a'u cadw.

Os mai dyma'ch ymweliad cyntaf, rydym yn eich annog i ddarllen y Dudalen Cymorth. Ailadroddir y wybodaeth bwysicaf ar dudalennau eraill i'ch helpu.

Yn ôl i'r hafan To English language site Yn ôl i'r hafan