Cyflwyniad
Mae'r Gofrestrfa Tir wedi creu'r wefan hon yn bennaf er mwyn darparu gwybodaeth a gwasanaethau at ddefnydd yr unigolyn preifat. Felly mae'n rhaid talu am bob gwasanaeth ymlaen llaw â cherdyn credyd/debyd. Mae'n bosibl y bydd ein gwefan arall, y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, o ddiddordeb i gyfreithwyr a defnyddwyr busnes. Mae angen cofrestru i'r wefan hon ac mae ar gael i ddeiliaid cyfrif yn unig. Mae'n cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau, yn enwedig rhai a ddyluniwyd ar gyfer y gymuned drawsgludo. Mae manylion pellach ar gael o Linell Wybodaeth y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol ar 0844 8920393.
Gall defnyddwyr busnes tu allan i'r gymuned drawsgludo drafod eu gofynion gyda'n Tîm Gwerthu Ymgynghorol a gellir cysylltu â nhw trwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol, commercial.services@landregistry.gsi.gov.uk. Anelir y gwasanaethau hyn at ddefnyddwyr busnes tu allan i'r gymuned drawsgludo sydd â diddordeb mewn dadansoddi gwybodaeth sylweddol.
Gwasanaethau
Byddwn yn darparu gwasanaethau ichi sydd yn cynnwys y wybodaeth sydd ar gael yn ein cronfeydd data eiddo ond heb fod yn gyfyngedig iddi. Bydd derbyn a defnyddio'r gwasanaeth yn amodol ar eich cytundeb i gydymffurfio â'r amodau ar eich defnydd a amlinellir yn y Telerau ac Amodau Mynediad hyn ac yn rhannau eraill o'r wefan hon. Mae rhai o'r gwasanaethau cysylltiedig y tu hwnt i'n rheolaeth ni oherwydd mai trydydd parti sy'n eu darparu. Un enghraifft yw'r drefn talu. Yn yr achosion hyn nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am y gwasanaethau hyn, eu cynnwys, neu am unrhyw oedi, ymyriadau, neu gamgymeriadau wrth eu darparu, er ein bod yn gwarantu ein bod wedi ymarfer gofal a diwydrwydd rhesymol wrth ddewis y fath ddarparwyr.
Ein heiddo deallusol ni yw'r data a'r wybodaeth sydd ar gael ichi ac felly fe'u diogelir gan Hawlfraint y Goron a chyfreithiau deallusol eraill. Mae pob hawl perchnogaeth yn aros gyda ni. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan y Gofrestr Tir Ar-lein yn unol â'r Telerau ac Amodau Mynediad hyn a'r gofynion a amlinellir yn rhannau eraill o'r wefan hon.
Mae adran Ymholiad am eiddo'r Gofrestr Tir Ar-lein ar gael yn ddyddiol rhwng yr oriau 7am a 12 canol nos, dydd Llun i ddydd Sadwrn (yn gynwysedig).
Byddwch yn talu am y gwasanaethau trwy Worldpay, cwmni sy'n arbenigo mewn dulliau electronig o dalu. Byddwch yn derbyn Dynodydd Trafodiad gan Worldpay. Byddwn yn defnyddio'r cyfeirnod hwn hefyd i ddod o hyd i'n cofnod o'r trafodiad a dylech ddyfynnu hwn mewn unrhyw ymholiad.
Darperir y wybodaeth "fel ag y mae". Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol ichi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu yn ganlyniadol sy'n digwydd o ganlyniad i (i) unrhyw anghywirdeb neu anghyflawnder o ran y data neu unrhyw wybodaeth arall a ddarperir ichi trwy'r wefan hon neu unrhyw oedi, ymyriadau, camgymeriadau neu ddiffyg o ran eu cyflenwi; (ii) unrhyw benderfyniad neu weithred o'ch eiddo chi neu unrhyw drydydd parti sy'n deillio o ddibynnu ar y data. Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol am golled o ran adnoddau busnes, o ran elw neu am unrhyw iawndal cosbedigol, anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu gyffelyb o gwbl, boed o ran cytundeb, tort neu dan unrhyw amgylchiadau eraill, hyd yn oed os cawn ein hysbysu o'r posibilrwydd eich bod chi neu drydydd parti wedi dioddef colled o'r fath.
Gall ffactorau sy'n amhosibl eu rhagweld ac sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni oedi trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd. Gall hyn ein rhwystro rhag darparu ein gwasanaethau a chyflawni eich archebion. Rydych yn cydnabod na fyddwn ni nac unrhyw ddarparwr gwasanaeth gwybodaeth na thrydydd parti yn atebol ichi neu i unrhyw drydydd parti am unrhyw golledion o ganlyniad i unrhyw oedi o'r fath.
Ni fyddwn ar unrhyw gyfrif yn atebol am unrhyw golled canlyniadol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iawndal arbennig damweiniol, uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n digwydd o ganlyniad i oedi neu golli'r gallu i ddefnyddio ein gwasanaethau rhyngrwyd. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch cyfrifiadur, meddalwedd, modem, ffôn neu eiddo arall sy'n digwydd o ganlyniad i'ch defnydd o'n gwasanaethau.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw un o'r gwefannau sy'n gysylltiedig â'r wefan hon ac nid ydym o angenrheidrwydd yn cymeradwyo'r farn a fynegir ynddynt. Ni allwn warantu y bydd y cysylltau hyn yn gweithio trwy'r amser ac ni allwn reoli a fydd y tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.
Mae'r data o'r awyr sy'n ymddangos yma eisoes ar gael yn rhwydd ar y we o nifer o wahanol ffynonellau (ac felly y bu ers 2000). Ni fydd y Gofrestrfa Tir yn dangos unrhyw beth newydd nac unigryw nad yw ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd mewn mannau eraill. Y brif wahaniaeth yw y byddwn yn darparu'r gwasanaeth hwn am ddim (i ddechrau o leiaf).
Defnydd gwaharddedig:
- Rhaid ichi beidio â defnyddio'r wefan mewn unrhyw ffordd sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi ymyriad, difrod neu amharu ar y wefan neu fynediad iddi mewn unrhyw fodd.
- Rhaid ichi beidio â defnyddio neu geisio defnyddio unrhyw raglen awtomataidd (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw 'bry cop' neu we-ymlusgwr arall) i gysylltu â'n system neu'r Wefan hon, neu i chwilio, copïo, monitro, dangos neu gael cysylltau i unrhyw ran o'r Wefan hon.
Mae cysylltu ag unrhyw ran o'n system neu â'r wefan hon trwy gyfrwng unrhyw raglenni awtomataidd o'r fath yn hollol ddiawdurdod.
- Mae'n rhaid ichi beidio â gwneud na cheisio gwneud unrhyw ddileadau, ychwanegiadau at (ac eithrio wrth lenwi ffurflen a ddarparwyd gennym ni) cofnodion o hysbysiadau, addasiadau neu newidiadau i unrhyw ddata neu wybodaeth, y systemau neu'r cronfeydd data.
Rydym yn cadw'r hawl i newid ein gwefan, polisïau a'r Amodau Defnyddio hyn ar unrhyw amser. Byddwch yn ddarostyngedig i'r polisïau ac Amodau Defnyddio sydd mewn grym pan fyddwch yn defnyddio'r wefan neu yn archebu adnoddau oddi wrthym, oni bai y bydd rhaid inni newid y polisïau hynny neu'r amodau hyn mewn unrhyw ffordd, yn unol â'r gyfraith (os felly byddant yn gymwys i archebion a gafwyd gennych yn flaenorol).
Mae'r Gofrestrfa Tir yn monitro defnydd o'r Wefan ac mae'n cadw'r hawl lwyr i'ch gwahardd rhag cysylltu â'r Wefan neu ag unrhyw ran o'r Wefan neu i wrthod eich cofrestru ar y Wefan neu i derfynu eich cofrestriad os ydych yn torri'r telerau ac amodau hyn. Byddwn yn hysbysu unrhyw ddefnyddiwr o'r fath a bydd rhaid iddo beidio â defnyddio'r Wefan hon dan unrhyw enw arall neu trwy unrhyw ddefnyddiwr arall.
Os ydych yn ansicr a yw'r defnydd rydych yn bwriadu ei wneud o'r wybodaeth yn torri'r hawliau eiddo hyn, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad ebost canlynol: copyright@landregistry.gov.uk.
Os hoffech gadw cofnod parhaol o'r telerau ac amodau hyn gallwch gadw'r dudalen hon.
|